Manylion

Annwyl Rieni

Mae dewis yr ysgol gywir i’ch plentyn yn holl bwysig. Mae’r rhan fwyaf o rieni am sicrhau addysg dda i’w plant ond maent hefyd am iddynt fod yn hapus a theimlo’n ddiogel. Yn Ysgol Gynradd Llanpumsaint, credwn y gallwn gynnig pob un o’r pethau hyn. Rydym yn ymfalchïo yn yr

addysg eang, gytbwys a llawn a ddarparwn yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2, ac mae safonau uchel yr addysgu a’r dysgu yn dwyn clod i waith caled y staff a’r disgyblion. Yn yr un modd, rydym hefyd yn ymfalchïo yn yr awyrgylch cyfeillgar a chydweithredol sydd

bob amser i’w weld. Mae llawer o ymwelwyr i’r ysgol yn sôn am y croeso cynnes y maent yn ei gael a chwrteisi ac aeddfedrwydd ein disgyblion.

Rydym yn gwerthfawrogi ein disgyblion ac yn credu y dylai eu hamser yn yr ysgol fod yn werthfawr ac yn foddhaus. Petaech yn dewis anfon eich plentyn i Ysgol Llanpumsaint, rwyf yn gwbl hyderus y byddwch wedi gwneud y penderfyniad cywir.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu bryder ynghylch yr ysgol, neu os yw eich plentyn yn anhapus ynglŷn ag unrhyw agwedd o fywyd ysgol cysylltwch â’r ysgol yn syth.

 

Dyddiadau’r tymhorau a gwyliau ysgolion

 

Ysgolion ar gau drwy argyfwng

 

Derbyn i Ysgolion / Newid ysgol

 

Prydiau Ysgol

 

ParentPay

 

Cymorth Arianol

 

Anghenion Dysgu Ychwanegol