Manylion yr Ysgol

Mae Ysgol Llanpumsaint yn sefyll yng nghanol y pentref hardd Llanpumsaint. Mae’r ysgol wedi ei amgylchynu gan ryfeddodau natur sydd yn fodd i gyfoethogi addysg a phrofiadau’r disgyblion. Mae’r ysgol yn ymdrechu i feithrin ymdeimlad o berthyn i gymuned drwy gymryd rhan mewn digwyddiadau a gynhelir yn y pentref.

Ysgol gynradd sirol gymysg yw, sy’n addysgu plant o 3 – 11 oed. Derbyniwn blant i’r ysgol ar ddechrau’r tymor pan fyddant yn cyrraedd eu pedair oed, ac fe’u trosglwyddir i Ysgol Gyfun Ddwyieithog Bro Myrddin, neu Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth Caerfyrddin, yn y Mis Medi sy’n dilyn eu penblwydd yn 11 oed. Mae gan rieni, er hynny, hawl i anfon eu plant i unrhyw ysgol uwchradd o’u dewis, wedi ymgynghori â’r Adran Addysg.

Mae’r ysgol yn un ‘Categori 1’, sy’n golygu mai Cymraeg yw prif gyfrwng bywyd a gwaith Adran Y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 1 (CA1), er mwyn i’r plant gael sylfaen gadarn yn yr iaith. Pwysleisiwn serch hynny, ein bod yn ymdrin â phlant Saesneg eu haith yn sensitif iawn, gan sicrhau eu bod yn deall, yn gartrefol, yn hapus, ac yn dod yn eu blaenau hyd eithaf eu gallu. Wrth reswm felly siaredir Saesneg fel bo’r angen. Yng Nghyfnod Allweddol 2 (CA2), bydd elfen gryf o ddwyieithrwydd yn yr addysgu er mwyn sicrhau bod y plant wedi eu paratoi at addysg bellach yn yr ysgolion uwchradd yn iaith y cyfrwng ynddynt. Nod y polisi dwyieithog hwn yw addysgu’r plant i fod yn gwbl ddwyieithog erbyn gadael yr ysgol gynradd, ac mae’r ysgol yn hynod lwyddiannus yn hyn o beth. Dengys canlyniadau yn yr ysgolion uwchradd bod addysg ddwyieithog yn hybu llwyddiant mewn ieithoedd tramor yn ddiweddarach.