Croeso i Llanpumsaint

Hoffwn ddymuno croeso cynnes i wefan yr ysgol a gobeithio fe wnewch chi deimlo bod y gwefan yn ddiddorol ac yn ffynhonnell gwybodaeth ddefnyddiol.

Mae dewis yr ysgol gywir i’ch plentyn yn holl bwysig. Mae’r rhan fwyaf o rieni am sicrhau addysg dda i’w plant ond maent hefyd am iddynt fod yn hapus a theimlo’n ddiogel. Yn Ysgol Gynradd Llanpumsaint, credwn y gallwn gynnig pob un o’r pethau hyn. Rydym yn ymfalchïo yn yr addysg eang, gytbwys a llawn a ddarparwn yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2, ac mae safonau uchel yr addysgu a’r dysgu yn dwyn clod i waith caled y staff a’r disgyblion. Yn yr un modd, rydym hefyd yn ymfalchïo yn yr awyrgylch cyfeillgar a chydweithredol sydd bob amser i’w weld. Mae llawer o ymwelwyr i’r ysgol yn sôn am y croeso cynnes y maent yn ei gael a chwrteisi ac aeddfedrwydd ein disgyblion.

Rydym yn gwerthfawrogi ein disgyblion ac yn credu y dylai eu hamser yn yr ysgol fod yn werthfawr ac yn foddhaus. Petaech yn dewis anfon eich plentyn i Ysgol Llanpumsaint, rwyf yn gwbl hyderus y byddwch wedi gwneud y penderfyniad cywir.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu bryder ynghylch yr ysgol, neu os yw eich plentyn yn anhapus ynglŷn ag unrhyw agwedd o fywyd ysgol cysylltwch â’r ysgol yn syth.

Os oes gennychunrhyw ymholiadau pellach cysylltwch â’r ysgol os gwelwch chi’n dda.

Yn gywir

Geraldine Jenkins Pennaeth

Adroddiad y Llywodraethwyr 2019 – 2020